Welsh translation: Gorffennol Gwahanol: Yr Un Dyfodol

This is a Welsh translation of Lianne Walley's blog "Different Past: Shared Futures".

Gorfodwyd Chawan Ali i ffoi o Irac yn 2015, pan oedd hi ond yn 15 oed. Wedi blynyddoedd o frwydro a bygythiad ISIS, roedd ei theulu yn poeni am eu dyfodol. Mae Chawan bellach wrthi’n trawsnewid ei bywyd ei hun trwy astudio, ac yn helpu i gefnogi a thrawsnewid sefyllfa ei theulu. Mae hi hefyd yn gweithio gyda Thref Noddfa Wrecsam i drawsnewid y ffordd mae ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn cael eu croesawu yn y dref a ledled Cymru. Mae ei hanes yn enghraifft wych o sut mae cymorth ar gyfer ffoaduriaid a darpariaeth ESOL yn trawsnewid bywydau. Trafodir hanes Chawan ymhellach mewn cyfres arbennig o bodlediadau, Change Your Story, a gynhyrchwyd ar gyfer Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru.
Mae’r blog hwn yn rhan o gasgliad o flogiau a sylwadau 2020 y Sefydliad Dysgu a Gwaith gan ddarparwyr addysg oedolion yn y DU sy’n rhan o raglen yr Agenda Ewropeaidd ar Addysg Oedolion. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â Mark Ravenhall neu Joyce Black. |