chevron-down chevron-left chevron-right chevron-up home circle comment double-caret-left double-caret-right like like2 twitter epale-arrow-up text-bubble cloud stop caret-down caret-up caret-left caret-right file-text

EPALE - ePlatforma za izobraževanje odraslih v Evropi

Spletni dnevnik

Welsh version of Dafydd Rhys' Healthy, Wealthy & Wise 'thinkpiece'

05/02/2020
objavil Dafydd Rhys
Jezik: EN

In September 2019, the Learning & Work Institute published the Healthy, Wealthy & Wise: implications for workforce development report which encompassed 'thinkpieces' (individual content contributions) that explored the implications of the report. Dafydd Rhys, author of thinkpiece 8, has translated his thinkpiece into Welsh, which is provided below.

Conwy Castle in Wales

 

Pwyntiau allweddol

Mae ymgysylltu democrataidd yn ffactor allweddol mewn datblygu cynaliadwy, ac mae dysgu gydol oes yn ffafriol tuag at ddemocratiaeth gymunedol

 

Nid yw pwysigrwydd hanfodol posibl addysg yn niffyg democrataidd ôl-ddatganoli Cymru wedi’i archwilio’n llawn

 

Ni fydd medrau hanfodol a galwedigaethol ar eu pen eu hunain yn sicrhau cymunedau a gweithleoedd cynaliadwy, gwydn a ffyniannus

 

Mae gorbroffesiynoli biwrocrataidd addysgu, ar sail asesu a chymwysterau addysgu yn unig, yn rhwystro staff ysbrydoledig o broffesiynau eraill

* * *

Mae cefndir Dafydd Rhys mewn Daearyddiaeth a Hamdden a Pharciau, ac mae wedi gweithio yn y sectorau Ysgolion, Addysg Bellach, Addysg Uwch ac Addysg Oedolion yn y Gymuned. Hefyd, mae wedi sefydlu mentrau cymunedol a chydweithredol yn y diwydiannau creadigol, cyhoeddi a hamdden. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio i Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales fel ei Gydlynydd Ymgysylltu Democrataidd a Chyfrwng Cymraeg.

 

 

Dadlau’r achos dros ‘Gwricwlwm Ymgysylltu Democrataidd’ newydd ar gyfer addysg oedolion

 

Cyflwyniad

Dywed Healthy, Wealthy and Wise ‘there has been very little curriculum-based activity on sustainable development in adult learning’.[1] Serch hynny, mae’n darparu tystiolaeth o gysylltiadau cadarnhaol niferus rhwng addysg oedolion ac ymgysylltu cymunedol, meithrin cyfalaf cymdeithasol, ymwybyddiaeth o faterion cyfoes a’r tebygolrwydd o bleidleisio. Mae’n dod i’r casgliad bod ‘Adult learning certainly does appear to foster an increase in active citizenship’.

Byddwn i’n dadlau bod rhoi’r grym i ddinasyddion ymgysylltu’n ddemocrataidd yn ganolog i ddatblygiad cynaliadwy cymunedau, cenhedloedd a’r byd ehangach a’i amgylchedd.

Mae Westall (2015)[2] yn nodi bod llawer o dystiolaeth o bwysigrwydd mwy o gymryd rhan mewn strategaethau datblygu cynaliadwy a’u gweithredu, ac mae’n cyfeirio at yr heriau democrataidd. Hefyd, mae Lafferty (2012)[3] yn archwilio’r ‘impasse of dysfunctional democracy’ yng nghyd-destun datblygu cynaliadwy.

Nod yr ysgrif ystyriol hon, yn gyntaf, yw rhoi yn ei gyd-destun pam y mae dirfawr angen ‘Cwricwlwm Ymgysylltu Democrataidd’ newydd ar gyfer addysg oedolion ar Gymru ôl-ddatganoli, ddwyieithog ac amrywiol yn y ‘cyfnod ôl-wirionedd’ hwn; yn ail, y nod yw archwilio natur bosibl y cwricwlwm hwn ac amlinellu ei oblygiadau i’r gweithlu addysg oedolion ac eraill sy’n hwyluso dysgu.

 

Cyd-destun

Ar ôl torri dannedd fel athro yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn dilyn chwalu’r diwydiant glo a’i gymunedau yn y 1980au, roedd perthnasedd y ‘ddaearyddiaeth newydd’ yr oeddwn i’n dyheu am ei haddysgu ar y pryd ond yn rhy amlwg.[4] Athroniaeth y ddaearyddiaeth radical newydd hon oedd nid yn unig ‘mapio creulondeb amlwg dyn tuag at ddyn’ yn ffeithiol, ond hefyd rhoi’r grym i fyfyrwyr geisio atebion a datrys problemau.[5] Daeth y gwerthoedd addysgol hyn gyda mi ar fy nhaith drwy sefydliadau Addysg Bellach a’u cyrsiau galwedigaethol i Addysg Oedolion yn y Gymuned yn y pen draw. Fodd bynnag, roeddent yn aml yn gwrthdaro â chwricwla wedi’u rhagnodi’n ganolog a’u gyrru gan arian, agenda sgiliau cul ei diffiniad a thechnegau addysgu marwaidd.

Yn ddiweddar, mae fy nghyflogwyr presennol, Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales, ar y cyd â Co-operatives and Mutuals Wales, wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo cwricwlwm ymgysylltu democrataidd a chydweithredol.[6] Y bwriad nid yn unig oedd perswadio Llywodraeth Cymru i gynnwys elfennau o’r fath yn y cwricwlwm newydd i ysgolion a’i pholisi sy’n esblygu ar Addysg Oedolion, ond hefyd i ysgogi cydweithredu ar lawr gwlad.

Felly, roedd hi’n galonogol pan ddatganodd Kirsty Williams ei chynlluniau a’i gweledigaethau radical ar gyfer addysg yng Nghymru yn narlith goffa flynyddol Raymond Williams ar 10 Hydref 2018.[7] Nid yn aml y byddwch chi’n clywed Gweinidog Addysg o Ddemocrat Rhyddfrydol, mewn Llywodraeth Lafur Cymru, yn cofleidio’n frwdfrydig gysyniadau athronydd Marcsaidd a wnaeth, yn ddiweddarach yn ei fywyd, drosglwyddo’i deyrngarwch gwleidyddol i Blaid Cymru. Roedd Raymond Williams, athronydd mwyaf dylanwadol ac enwog Cymru yn rhyngwladol yn y cyfnod diweddar, yn dadlau’n gryf y dylid ystyried bod dysgu gydol oes yn ffafriol tuag at greu democratiaeth gymunedol a datblygu’r sgiliau i herio a llywio diwylliant.

Yn ystod y ddarlith, dadleuodd yr Ysgrifennydd Addysg fod ‘national mission of education reform’ Llywodraeth Cymru yn ‘stepping forward in the spirit of Raymond Williams’s long revolution’.[8] O’r cwricwlwm newydd i ysgolion drwodd i addysg oedolion, mae hi’n galw am ddiwylliant cyffredin a dinasyddiaeth ar y cyd sy’n cwestiynu ac yn herio’r ffordd sefydledig o feddwl a threfnu, gan ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau i alluogi pobl i ddod yn rhan o’r broses newid cymdeithasol. Hefyd, mae Kirsty Williams yn dadlau, yn oes poblyddiaeth, y gallai democratiaeth fregus Cymru fod o dan fygythiad heb rôl o’r fath ar gyfer addysg.

Mae’r diffyg democrataidd yn nemocratiaeth ifanc a datblygol ôl-ddatganoli Cymru wedi’i amlygu hefyd gan wleidyddion eraill, ysgolheigion a sylwebwyr gwleidyddol fel ei gilydd.[9]/[10] Gan amlaf, dadleuir fod dryswch am y setliad datganoli a diffyg gwasg a chyfryngau grymus (traddodiadol a modern) yng Nghymru wedi arwain at lefel isel o ymgysylltu gwleidyddol. Yr hyn sydd heb gael ei archwilio a’i ddiffinio’n llawn yw’r rôl hanfodol bosibl y gallai ein system addysg, gan gynnwys y sector Dysgu Gydol Oes, ei chwarae yn hwyluso ymgysylltu democrataidd.

Mae Daniel Evans (2016) yn trafod yr hyn y galwa’n ‘information deficit’ mewn erthygl a gyhoeddwyd ar wefan Open Democracy.[11] Gwell rôl i addysg:

‘It is about political participation and the belief that the public can be a check against the state and abuses of power. This requires a politically educated public facilitated by an accessible and open flow of information… The public sphere goes beyond just ‘the media’ but also depends on the contribution of universities, schools and civil society, and… ultimately we all have a part to play in creating it’.

Ers trafodaeth Brexit ac etholiad arlywyddol America, mae ‘gwleidyddiaeth ôl-wirionedd’ wedi dod yn ffenomen fawr ei thrafod, gyda gwleidyddion yn hyrwyddo’n ddigywilydd ffeithiau ac addewidion di-sail i bleidleiswyr. Fel y dywedodd Jonathan Friedland yn 2016, ‘the rise of social media and… TV channels and radio stations defined by political hue, means voters…get the entirety of their information from sources tailored to reflect their own views back to them.[12]  Yr hyn sydd wedi ennill ei blwyf yn ôl Marty Barton (2016), golygydd y Washington Post, yw ‘… an alternate reality, a virtual reality, where lies are accepted as truth and where conspiracy theories take root in the fertile soil of falsehoods.’[13]

Mae’r hanesydd o Israeliad, Youval Harari (2018), yn nodi nad yw newyddion ffug yn ffenomen newydd, ond mae’n rhybuddio y gallai uno biotechnoleg a thechnoleg gwybodaeth gyda’i algorithmau cyn hir wthio biliynau o bobl o’r farchnad swyddi a thanseilio ewyllys rydd, rhyddid, cydraddoldeb a’r gwirionedd.[14]

 

Y goblygiadau i’r gweithlu addysg oedolion

Mae grymuso ymgysylltu democrataidd bob amser wedi’i gorffori yng ngweledigaeth addysg gymunedol oedolion, fel y’i disgrifir gan Graystone (2016):

‘The provision of learning, skills and prosperity… will… require a commitment to democratic citizenship, inclusiveness, cultural enrichment, health and wellbeing, equalities and social justice… giving us the cutting edge that we need for our communities to be resilient, for our economy to adapt and for our democracy to thrive’.[15]

Mae cwestiwn yn codi ynghylch y graddau y mae’r gweithlu presennol yn gwbl un â’r weledigaeth uchod ac yn meddu ar y sgiliau cyd-destunol, addysgol, ieithyddol a thechnolegol i gyflawni’r hyn sydd ei angen yn awr. Gellid ystyried cynnal archwiliad sgiliau, yn gysylltiedig â rhaglen ddatblygu staff a pholisïau cyflogaeth a sefydlu diwygiedig.

Cyn i hyn ddigwydd, mae angen dadlau’r achos dros ‘Gwricwlwm Ymgysylltu Democrataidd’ newydd a datblygu strategaeth i gyflwyno’r cwricwlwm hwn. Yn y pen draw, byddai tiwtoriaid yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd hwn yn yr ystafell ddosbarth, yn ddigidol neu yn y maes. Fodd bynnag, er mwyn cael achos cryf drosto a chefnogi’i ddatblygiad, byddai angen cynnwys pobl eraill.

Nid yn unig y byddai hyn yn cynnwys arweinwyr y cwricwlwm, rheolwyr ansawdd a llywodraethwyr, ond arweinwyr cymunedol, sefydliadau partner, uwch addysgwyr a gwleidyddion hefyd. Datblygwyd ‘Cwricwlwm ar Ymgysylltu Democrataidd Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales’ gan ei aelodau, gan gynnwys cyfraniadau gan lywodraethwyr, dysgwyr, canghennau a mudiadau partner.[16] Ar y lleiaf, awgrymodd y strategaeth hon y gallai grwpiau sefydlu fforymau neu ganghennau dysgwyr, gan roi llais, pleidleisiau a pherchenogaeth iddynt ar y sefydliad. I wneud y mwyaf o’i llwyddiant, byddai strategaeth genedlaethol neu sefydliadol newydd o fudd i bawb sydd ynghlwm â’i datblygiad. Byddai’n ‘communicative’ (Habermas 1970).[17] Byddai angen datblygu ‘shared vision’ (Senge 1990).[18]

Gallai ‘Damcaniaeth U’ Sharmer fod yn ddull defnyddiol o sicrhau ymrwymiad llwyr a gweithredu’r strategaeth yn fuan.[19]

 

Ffigur 1: Damcaniaeth U Sharmer

 

Figure 1

 

Rhaid i’n diffiniad ni o ymgysylltu democrataidd, yn ysbryd yr uchod, fod yn fwy o lawer na dim ond deall strwythurau gwleidyddol newydd a chymryd rhan mewn ymgynghoriadau swyddogol a phrosesau democrataidd ‘cynrychioliadol’. Yn y pen draw, bydd llwyddiant Cymru ddatganoledig yn dibynnu ar sylfaen o weithgarwch democrataidd ‘cyfranogol’ - sef bod unigolion yn cydweithredu yn eu cymunedau ac yn cymryd rheolaeth ar eu dyfodol.

Yng ngoleuni’r diffyg democrataidd a’r heriau sy’n wynebu cymunedau, mae achos cryf nid yn unig dros ariannu cwricwlwm ehangach yn ddigonol, ond hefyd cynorthwyo pob dysgwr ag elfen o ymgysylltu democrataidd. Felly, byddai angen i bob tiwtor, staff cymorth a hwyluswr fod yn gyfarwydd â’r strategaeth ac yn gymwys i’w chyflwyno. Mae llythrennedd democrataidd yr un mor bwysig â sgiliau eraill. Gyda’r toriadau i addysg ran-amser oedolion, y bobl fwyaf difreintiedig sydd wedi’u heffeithio fwyaf ac wedi’u difreinio, i bob pwrpas.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn amlinellu fframwaith sy’n gorchymyn cyrff cyhoeddus i gynnwys cymunedau, gyda’r nod o wella’u llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.[20] I hyn weithio’n effeithiol, mae angen cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a miniogi lleisiau pobl ddifreintiedig. Ni fydd sgiliau hanfodol a galwedigaethol ar eu pen eu hunain yn sicrhau cymunedau cynaliadwy – onid oes angen cyd-destun, llesiant, creadigrwydd a diwylliant arnynt hefyd?

Dylai fod lle bob amser ar gyfer tiwtoriaid arbenigol a dosbarthiadau addysg gwleidyddol unigol, o ddatblygu cymunedol ac athroniaeth i ffeministiaeth, traddodiad gwleidyddol Cymru, hanes pobl dduon a globaleiddio, ac ati (gweler y diagram isod).[21]

 

Ffigur 2: Rhaglen Ddemocratiaeth Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Figure 2

 

 

 

Integreiddio ymgysylltu democrataidd â sgiliau hanfodol a galwedigaethol eraill

Gyda gwleidyddiaeth Cymru, Ewrop a gwleidyddiaeth ryngwladol yn newid a dylanwad cyfryngau a thechnoleg newydd, mae angen blaenoriaethau a methodoleg addysgu newydd. Mae angen i ymarferwyr addysg oedolion ymgynefino â’r amrywiaeth o dechnolegau a phecynnau meddalwedd newydd sy’n gallu ymrymuso dinasyddion i ymgysylltu’n ddemocrataidd ac ymgyrchu. Hefyd, mae angen i diwtoriaid integreiddio ymgysylltu democrataidd yn greadigol ac yn ddiduedd â sgiliau hanfodol a galwedigaethol eraill, o dechnoleg gwybodaeth i’r celfyddydau creadigol. Mae angen i ni roi i’n dysgwyr y sgiliau cyfathrebu, trefnu a chraffu i gwestiynu a dilysu ffeithiau, herio safbwyntiau, lobïo, ymgyrchu, datrys problemau ac ymhél ag atebion cadarnhaol. Byddai’r cyrsiau gwleidyddol diduedd a’r themâu trawstoriadol hyn yn annog goddefgarwch, cyfnewid barn a chydweithredu. Byddent yn meithrin datblygiad a mynegiant gwerthoedd a safbwyntiau, ynghyd â dealltwriaeth o sut i’w hyrwyddo nhw’n weithgar yn lleol, yn genedlaethol neu’n rhyngwladol i wella cymunedau ac amgylchedd y dysgwyr.

Er mwyn cyfoethogi a datblygu’r cwricwlwm fel hyn, mae angen llif pellach o arbenigedd, profiadau ac arfer presennol o feysydd a phroffesiynau eraill. Mae perygl, fodd bynnag, fod gorbroffesiynoli biwrocrataidd addysgu rhan-amser ar sail asesu a chymwysterau addysgu yn unig yn rhwystro llawer o staff ysbrydoledig, o’r radd flaenaf, o broffesiynau eraill rhag rhannu’u cyfraniad mawr ei angen gyda dysgwyr addysg bellach ac oedolion sy’n dysgu yn y gymuned. Wrth reswm, rhaid diogelu safonau addysgu ac ansawdd y ddarpariaeth, ond mae angen hyblygrwydd a synnwyr cyffredin wrth ddod o hyd i ffordd ymlaen. Gellid ystyried achredu profiadau blaenorol, dyfarnu cymwysterau addysgu ar lwybr carlam, addysgu tîm a galluogi tiwtoriaid heb gymwysterau i addysgu hyd at drothwy penodol o oriau. Fel arall, dysgwyr fydd yn dioddef y canlyniadau wrth i ddarparwyr orfod cyfaddawdu yn y dewis o diwtoriaid sydd ar gael ac, weithiau, methu darparu cyrsiau. Mae meysydd fel technoleg gwybodaeth, sgiliau sylfaenol, addysg cyfrwng Cymraeg, a chyrsiau cymunedol neu alwedigaethol arbenigol yn arbennig o fregus.

Mae Addysg Gydweithredol yn gysyniad sydd heb ei lwyr werthfawrogi gan lawer o bobl sy’n ymwneud ag addysg, a byddai’n cefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru Gydweithredol. Mae Euros Lewis (2018), o Radio Beca, yn pwysleisio grym atebion cydweithredol creadigol lleol a natur gynhenid y cysyniad ym ‘meddylfryd’ yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymraeg.[22] ‘Dat-wladychu’ch hun’ o ddylanwadau hanesyddol, masnachol a globaleiddio isymwybodol yn aml yw’r cam cyntaf wrth alluogi hyn. Bosibl iawn y gallai fframwaith ôl-wladychol cadarnhaol, creadigol, cywirol, sy’n edrych tuag at y dyfodol fod yn ddefnyddiol i strategwyr addysg.[23] Gallai ‘Toesen ffiniau cymdeithasol a phlanedol’ (2017) Kate Raworth fod yn gwmpawd defnyddiol hefyd i hwyluso’r symud tuag at ofod cyfiawn yn gymdeithasol a diogel yn amgylcheddol, lle y gall y ddynoliaeth ffynnu (Ffigur 3).[24]

 

Ffigur 3: Toesen ffiniau planedol

https://www.kateraworth.com/wp/wp-content/uploads/2013/04/Screen-Shot-2017-04-05-at-08.26.50-720x718.jpg

 

Gallai addysgwyr, gwleidyddion a gweision sifil ddysgu llawer o fodelau rhyngwladol fel model America Frodorol o Golegau Cymunedol, y mae eu cenhedloedd hefyd yn ailddarganfod hanesion a thraddodiadau, yn adfywio ieithoedd ac yn datblygu democratiaethau newydd. Mae gan eu harweinwyr, addysgwyr a dysgwyr ymwybyddiaeth gadarn iawn o’u hunaniaeth a’u pwrpas hefyd. Rhoddant bwys ar ymchwil, mae ganddynt eu cyhoeddiad eu hunain a dathlant eu cenhadaeth, eu diwylliant a’u llwyddiannau yn gyfunol.[25] Mae datblygu nodweddion arwain sy’n seiliedig ar eu traddodiadau a’u diwylliant yn bwysig iddynt. Mae gan Wlad y Basg lawer o arferion blaengar hefyd o ran menter gydweithredol (Prifysgol Mondragon)[26], addysg cyfrwng Basgeg a Basgeg i oedolion.[27]

Nid yn unig y mae addysg cyfrwng Cymraeg, Cymraeg i oedolion ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol yn allweddol i sicrhau targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gellir eu hystyried hefyd yn yr un modd â rhaglenni fel SSIE o ran galluogi democratiaeth ddwyieithog gynhwysol.[28]

Yn ymarferol, mae gweithredu’r weledigaeth uchod yn golygu gorchymyn a galluogi pawb sydd ynghlwm i flaenoriaethu ymgysylltu democrataidd (o fewn cysyniad cyffredinol cynaliadwyedd) fel thema drawstoriadol ar gyfer pob darpariaeth, gyda chyrsiau unigol arbenigol yn darparu cymorth pellach. Dylai ymgysylltu gweithgar a’r sgiliau ymarferol sy’n gysylltiedig fod mor flaenllaw ag astudio academaidd goddefol. Dylai defnyddio cyfathrebu, ymgyrchu a thechnolegau eraill sy’n hwyluso ymgysylltu fod yn allweddol. Mae angen datblygu adnoddau newydd, amlygu methodolegau addysgu effeithiol a chofnodi a rhannu arfer da. Mae angen amlygu a llunio cymwysterau ac unedau achredu perthnasol. Yn ddiweddar, trafodwyd model o gwricwla cymunedol atebol mewn digwyddiad yn canolbwyntio ar ddysgu er datblygiad cydweithredol a chysylltiadol.[29]

 

Byddai’n amserol hefyd asesu p’un ai cyrff llywodraethol penodedig yn bennaf sefydliadau Addysg Bellach sy’n cynnig y model gorau o ran ymgysylltu, perchenogaeth ac atebolrwydd. Gellid ystyried modelau aelodaeth yn nhraddodiad Cymdeithas Addysg y Gweithwyr neu hyd yn oed fudiadau addysg cydweithredol. Fe wnaeth Gerry Hassan (2015), y prif siaradwr yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol WEA Scotland ddadlau bod mudiadau o’r fath yn ‘gyfryngau’ hanfodol mewn democratiaethau modern i ddatblygu ‘gwerthoedd’ a sianelu ‘lleisiau’ er mwyn osgoi rhwystredigaeth a dieithrio o’r broses ddemocrataidd.[30]

 

 

Crynodeb

Mae’n rhaid i ni herio unrhyw fudo tuag at y math o wleidyddiaeth a arferir gan lawer o wleidyddion poblyddol a sicrhau Cymru’n ‘ardal rydd rhag gwleidyddiaeth-ôl-wirionedd’! Mae rheidrwydd arnom wneud hyn nid yn unig er mwyn ein dinasyddion, iechyd ein democratiaeth a’r awydd am gynaliadwyedd, ond hefyd o barch tuag at draddodiad gwleidyddol ein cenedl: o gyfreithiau egalitaraidd cyn-ganoloesol Hywel Dda a gweledigaeth gydweithredol Robert Owen, i’n traddodiad anghydffurfiol rhyddfrydol dylanwadol, a sosialaeth Keir Hardy, Aneurin Bevan a Raymond Williams, heddychiaeth a chenedligrwydd diwylliannol Gwynfor Evans, a grwpiau ac ymgyrchoedd egwyddorol ac ysbrydoledig o’r Siartwyr a’r swffragetiaid Cymreig, i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a grwpiau cefnogi o fenywod yn ystod Streic y Glowyr y 1980au.

Aneurin Bevan a ddadleuodd bwysigrwydd hanfodol y gwirionedd mewn gwleidyddiaeth ac mae ei ddyfyniad enwog ‘This is my truth - tell me yours’ hefyd yn deitl albwm gan y Manic Street Preachers.[31] Yr hyn a anogai oedd i wleidyddion siarad yn angerddol o’u profiadau ac osgoi gwleidyddiaeth falch a bwriadol. Bydd gan ddysgwyr o wahanol gefndiroedd lawer o’u ‘gwirioneddau’ eu hunain hefyd yn deillio o’u cymunedau a’u profiadau bywyd personol. Ein her yw rhoi iddynt yr adnoddau, yr anogaeth a’r hyder i fynegi eu ‘gwirioneddau’, llywio ein dyfodol a datblygu ymhellach y ‘chwyldro hir’.

Argymhellion allweddol

  1. Yr angen am ‘Gwricwlwm Ymgysylltu Democrataidd’ newydd a datblygu strategaeth i’w gyflwyno
  2. Cynnwys ymgysylltu democrataidd fel thema drawstoriadol ym mhob darpariaeth, ynghyd â chyrsiau unigol arbenigol
  3. Yr angen am fframwaith ôl-wladychol, flaengar, ar gyfer strategwyr addysg.
  4. Yr angen am achredu profiadau blaenorol, dyfarnu cymwysterau addysgu ar lwybr carlam, addysgu tîm a galluogi tiwtoriaid heb gymwysterau i addysgu hyd at drothwy penodol o oriau.
  5. Dylai ymarferwyr a llunwyr polisi ddysgu o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr a modelau ôl-wladychol, cydweithredol a rhyngwladol eraill

 

 

 

 

 

 

[1] Learning and Work Institute (2017): Healthy, Wealthy and Wise: The impact of adult learning across the UK 2015-17, t21-24.

[2] Westall, Andrea (2015): The Relationship between Democracy and Sustainable Development. Foundation for Democracy and Sustainable Development.

[3] Lafferty, William (2012): Governance for sustainable development: the impasse of dysfunctional democracy. Chapter 14: Governance, Democracy and Sustainable Development - Moving Beyond the Impasse. Ed. James Meadowcroft, Oluf Langhelle and Audun Ruud. ISBN978 1 84980 756 2

[4] Mae Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yn ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg a oedd yn gwasanaethu Cwm Rhymni a Gwent yn ystod y 1980au.

[5] Harvey, David (1973): Social Justice and the City, p144-145. London: Edward Arnold.

[6] Mae Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales yn Goleg Cymunedol Cenedlaethol ac yn Fudiad Addysg Oedolion. Fe’i sefydlwyd yn 2016 yn dilyn cyfres o uniadau rhwng Coleg Harlech, Sefydliadau Addysg y Gweithwyr yng Nghymru a Choleg Cymunedol YMCA Cymru.

[7] Williams, Kirsty (2018): Darlith Goffa Raymond Williams, a noddwyd gan y Learning and Work Institute a’r Brifysgol Agored yng Nghymru

[8] Williams, Raymond (1961): The Long Revolution. London: Chatto & Windus.

‘Long revolution’ y teitl yw chwyldro mewn diwylliant, y mae Raymond Williams o’r farn ei fod wedi datblygu ochr yn ochr â’r chwyldro democrataidd a’r chwyldro diwydiannol. Arweiniodd Williams y ffordd yn cydnabod pwysigrwydd a thwf y cyhoedd darllengar yn niwylliant cyfan y Gorllewin. Nid digwyddiad unigol oedd ei gysyniad ef o chwyldro, ond datblygiad hirdymor prosesau amrywiol mewn byd cymhleth.

[9] Andrews, Leighton (2017). Facebook, the media and democracy’, Dalith Flynyddol yr RTS, Y Senedd, Caerdydd, 19 Hydref 2017.

[10] Price, Adam (2018): Chapter 10, ‘Democratic deficit’ in Wales, the First and Final Colony. Y Lolfa.

[11] Evans, Daniel, Prifysgol Caerdydd (2017): The BBC and Wales’s Information Deficit, Open Democracy https://www.opendemocracy.net/daniel-evans/bbc-and-wales-information-deficit.

[14] Harari, Youval (2018): 21 Lessons for the 21st Century

[15] Graystone, John (2016): Cynllun Strategol Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales

[16] Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales (2017): Cwricwlwm ar Ymgysylltu Democrataidd.

[17]Habermas, Jürgen (1984) [1981]. Theory of Communicative Action, Volume One: Reason and the Rationalisation of Society (Book). Cyfieithwyd gan Thomas A. McCarthy. Boston, Mass.: Beacon Press.

[18] Senge,P (1990). The Fifth Discipline. The art and practice of the learning organisation. Random House.

[19] Scharmer, O (2007): Theory U. SoL, The Society for Organisational Learning.

[20] Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

[21] Addysg Oedolion Cymru / Adult Learning Wales (2017), Cwricwlwm ar Ymgysylltu Democrataidd gan Richard Speight, Dafydd Rhys et.al.

[22]Mae Radio Beca yn sianel cyfryngau ar gyfer llais a lleisiau’r 400 a mwy o gymunedau Cymraeg eu hiaith yn nhair sir gorllewin Cymru. Defnyddiant FM Digidol, y cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw gyfryngau posibl eraill. Yn ymarferol, mae hynny’n golygu cysylltu pobl â’u cymunedau, a sicrhau bod angerdd eu creadigrwydd a’u gwleidyddiaeth yn cael ei ledaenu’n eang. Y nod yw cefnogi a chryfhau ein gallu i lywio dyfodol ein cymunedau a, hefyd, i’n hysbrydoli i gefnu ar agwedd ‘does dim byd i’w wneud’ a throi tuag at ddeialog ar: ‘Beth wnawn ni’, ‘Pryd gwnawn ni hynny?’ a ‘Sut gwnawn ni hynny?’

[23] Rhys, D (2011): Arfarniad o Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol Addysg Gymraeg a Brodorol gan Ddefnyddio’r Dull Rhwystro-cymell

[24]Raworth, Kate(2017): Exploring Doughnut Economics. kateraworth.com

 

[25] TCJ, 2007. Our Story, Our Way. Tribal College Journal of American Indian Higher Education, Vol 19, No 2.

[26] Swyddfa Archwilio Cymru ‘Digwyddiad rhannu arfer da’ o Wlad y Basg, Caerdydd, 4 Rhagfyr 2018.

[27]Rhys, D (2008): Cymhariaeth o Addysg Oedolion yng Nghymru a Gwlad y Basg yn defnyddio’r Dull Marchnata Pwysigrwydd Perfformiad. (Papur heb ei gyhoeddi)

[28] Rhys, D (2011): Arfarniad o Arweinyddiaeth a Rheolaeth Strategol Addysg Gymraeg a Brodorol gan Ddefnyddio’r Dull Rhwystro-cymell (Traethaw Hir MA)

[29] Adult and Community Learning for co-operative and associational development, 23 Hydref 2018

[30] Hassan, Gerry (2015): Caledonian Dreaming

[31] Aneurin Bevan, a’r Manic Street Preachers (1998): Virgin.

 

 

 

You might also be interested in:

Share on Facebook Share on Twitter Epale SoundCloud Share on LinkedIn