Welsh translation: Llawer o amrywiaeth, dim digon o gydraddoldeb – sut gall cwricwlwm ESOL helpu i hyrwyddo gwrth-hiliaeth?
This is a Welsh translation of Dr Nafisah Graham-Brown's 2020 blog "Lots of diversity, not enough equality – how can the ESOL curriculum help promote anti-racism?".
Mae llofruddiaeth George Floyd, a sbardunodd brotestiadau gwrth-hiliaeth yn yr UD ac yn rhyngwladol, wedi bod yn gatalydd ar gyfer archwilio a thrafod yn feirniadol hiliaeth o fewn strwythurau presennol. Mae llofruddiaeth Floyd wedi digwydd ar adeg pan mae marwolaethau oherwydd COVID-19 yn anghyfartal o uchel ar gyfer pobl o gefndiroedd du a lleiafrifoedd. Yn y DU, mae casgliadau cynnar ymchwilwyr yn dangos bod hiliaeth strwythurol yn ‘achos sylfaenol’. Mae cyfran fawr o bobl mewn grwpiau BAME yn ymfudwyr newydd, a bydd cyfran o’r rheini yn ffoaduriaid ac ymfudwyr sy’n dysgu Saesneg yn ein dosbarthiadau ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill).
